Download LMHR Carnival leaflet in Welsh & English: colour, A4
Download LMHR Carnival leaflet in Welsh & English: black & white, A4
12 canol dydd – 6 yr hwyr
Parc Victoria, Llundain E3
Am ddim
30 mlynedd yn ôl daeth dros 100,000 o bobl i gyngerdd ym Mharc Victoria, Dwyrain Llundain.
Ond nid cyngerdd cyffredin mohono. Roedd yn garnifal a drefnwyd gan Rock Against Racism a’r Gynghrair Wrth Natsïaeth. Hwn oedd y cyntaf o’i fath yn erbyn ffasgaeth a hiliaeth.
Slogan y diwrnod oedd undod du, gwyn ac Asiaidd.
30 mlynedd yn ddiweddarach, mae cenhedlaeth newydd o gerddorion a throellwyr yn dod ynghyd i ddathlu’r Carnifal hanesyddol gyda rhai o’r artistiaid oedd yma’r tro cyntaf.
Ond mae rheswm arall, pwysicach, i ymuno â ni yng Ngharnifal CCCH 2008. Mae’n amser sefyll yn erbyn y ffasgwyr a’r hilwyr sydd unwaith eto’n llygru’n strydoedd a chymdogaethau.
Mae neges Carnifal 2008 yn syml – Caru Cerdd Casáu Hiliaeth.
Welsh translation by WorldAccent.
